Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i BEIDIO â chynnwys unrhyw un o’r chwech man arfaethedig yng ngogledd Cymru mewn Parth Cadwraeth Morol. Rydym yn gwrthwynebu cynnwys Llanbedrog/Pwllheli, Aberdaron/Ynys Enlli, Porthdinllaen/Tudweiliog, Aberch/ Llanystumdwy, Ynys Seiriol/Biwmares a Gogledd Ddwyrain Afon Menai.
Byddai’r cais hwn yn cael effaith niweidiol nid yn unig ar ein diwydiant pysgota ond hefyd ar yr economi twristiaeth. Rydym yn dibynnu ar ein harfordir am ein bywoliaeth a’n mwynhad. Rydym yn gwrthwynebu yn y termau cryfaf y chwe man arfaethedig
Cyflwynwyd y
ddeiseb gan: Claire
Russell Griffiths
Ystyriwyd
y ddeiseb am y tro cyntaf: 2 Gorffennaf 2012
Nifer
y llofnodion: 6,501
(casglwyd mwy na 180 o lofnodion ar ddeiseb gysylltiedig ym mhapur newydd y Caernarfon
Herald)